[neidio i'r prif gynnwys]

Hanes Cymdeithas Tai Gwynedd

Y sylfaenwyr

Aelodau'r Pwyllgor Rheoli yn y '70au

Aelodau'r Pwyllgor Rheoli yn y '70au.

O'r chwith: R.D.Roberts (Cynrhychiolydd y Tenantiaid), Dr. Bruce
Griffiths, John Gwynedd (Trysorydd), Dafydd Iwan (Trefnydd),
Queenie Richards, T.E.Griffiths (Clerc), Edwin Pritchard (Adran
Adeiladu).
Enwau’r rhai a ddaeth at ei gilydd i sefydlu’r Gymdeithas yn 1971 oedd Ifan Gwyn, a weithredodd fel pensaer ar nifer o’r tai cynnar, Osborn Jones y gwr busnes, Dafydd Iwan a weithredodd fel Trefnydd cyntaf, a Brian Morgan Edwards, y gwr busnes a fu hefyd yn gymorth i sefydlu cwmni Recordiau Sain. Trist yw nodi fod Ifan a Brian bellach wedi’n gadael, ond priodol yw cofnodi ein dyled fawr iddynt, ac hefyd i ddau arall a fu’n gefn ymarferol i’r Gymdeithas yn ystod y blynyddoedd cynnar – Edwin Pritchard (adeiladwr) a Dewi Jones, Llanaelhaearn (pensaer).

Rhai eraill a ymunodd yn y gwaith yn gynnar oedd Maldwyn Lewis, Tremadog, Y Meddyg Carl Clowes a’r Meddyg Ieuan Parri, a fu’n Gadeirydd i’r Gymdeithas ers dros ugain mlynedd bellach, a’r Dr. Bruce Griffiths, y geiriadurwr enwog. Bu John Gwynedd Jones, y Waunfawr yn Drysorydd am nifer o flynyddoedd, a phenodwyd Alwyn Jones, cyn-reolwr banc sydd bellach yn byw yn Rhos-Bach, Caeathro yn ei le yn ystod 2006.

Gweinyddwraig ddiwyd y Gymdeithas yn ystod y 70au oedd Jean Hefina Owen, Penygroes, ac iddi hi y mae llawer o’r diolch am roi trefn ar lyfrau’r Gymdeithas, ac y mae hi’n parhau yn aelod gwerthfawr o’r Pwyllgor Rheoli. Wedi i Dafydd Iwan symud i weithio i Sain, bu Elwyn Griffiths, Pencaenewydd yn Drefnydd am rai blynyddoedd, ac yn ei ddilyn ef bu R. Meirion Thomas, Morfa Nefyn yn edrych ar ôl y siop.

“Ceiniogau'r Werin”

Roedd y Gymdeithas yn dibynnu ar godi arian gan bobl Cymru ar ffurf Stoc Benthyg, ac yn talu llog ar yr arian hwnnw yn flynyddol. Helpwyd yr achos ymhellach gan nifer fawr o bobl oedd yn barod i fuddsoddi’n ddi-log, a chan eraill oedd yn barod i werthu tai yn rhad i’r Gymdeithas. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y Gymdeithas yn medru cael grant adnewyddu gan y Cyngor Dosbarth lleol i adfer y tai, ac yn ddiweddarach, cyflogodd ei gweithlu ei hun o dan gynllun Manpower Services y llywodraeth i weithio ar y tai. Arweiniodd hyn at sefydlu Adran Adeiladu o weithwyr parhaol, a bu’r Adran honno’n weithredol tan ddechrau’r '90au, dan arweiniad y diweddar Edwin Pritchard, Garn Dolbenmaen. Aelodau eraill yr Adran Adeiladu oedd Richard Price, Garndolbenmaen a Medwyn Parry, Groeslon.

Erbyn hynny, roedd llywodraeth Doriaidd San Steffan wedi penderfynu sefydlu Cymdeithasau Tai ar raddfa eang i gymryd drosodd y gwaith o ddarparu tai “cymdeithasol” yn lle tai cyngor traddodiadol. Roedd y Cymdeithasau hyn yn derbyn eu cyllid gan y llywodraeth, ond gwrthododd Tai Gwynedd gofrestru er mwyn aros yn annibynnol. Prif asgwrn y gynnen oedd mai’r llywodraeth ganol oedd yn penderfynu polisi, ac yr oedd symud amlwg oddi wrth yr egwyddor o adfer hen dai tuag at godi stadau newydd, a’r rheini yn aml yn rhy fawr i ateb gofynion pentrefi gwledig. Parhaodd Tai Gwynedd yn bendant o’r farn mai adfer tai oedd eisoes yn bod ynghanol ein pentrefi oedd yr ateb gorau, a’r defnydd gorau o adnoddau.

“Nid prinder tai yw ein problem fwyaf yn ein pentrefi” meddai un o ddatganiadau cynnar y Gymdeithas, “ond defnydd anghywir o’r stoc dai sy’n bod eisoes.”

Sefydlu Tai Eryri

Ond nid oedd modd cystadlu gyda’r drefn newydd, ac felly, tra’n aros yn annibynnol ei hun, sefydlodd Cymdeithas Tai Gwynedd gymdeithas arall i fanteisio ar gyllid y llywodraeth, a dyna sut y ffurfiwyd Cymdeithas Tai Eryri. Am gyfnod, bu Dafydd Iwan yn gweithredu fel Trefnydd i’r ddwy gymdeithas, ond buan y tyfodd y babi newydd yn rhy fawr i gael ei rhedeg yn rhan-amser, a phenodwyd y pensaer Selwyn Jones yn Brif Weithredwr cyntaf Tai Eryri.

Parhaodd Cymdeithas Tai Gwynedd i weinyddu ei 30 o unedau byw, yn dai ac yn fflatiau, gan eu cynnal a’u cadw trwy gymorth yr arian a dderbyniai fel rhent, a’r arian a fuddsoddwyd gan gefnogwyr o bob rhan o Wynedd a Chymru.

Dros y blynyddoedd, ychwanegwyd ambell i dŷ newydd – megis yr un yn Rhosbodrual, Caernarfon, a adawyd i’r Gymdeithas yn ei ewyllys gan MatI Pritchard – a gwerthwyd ambell un arall. Gwerthwyd un yng Nghlynnog i’r tenant, un arall yn Nantlle i Gymdeithas Tai Eryri, a chapel ym Mhencaerau, Pen Llyn, i saer lleol oedd am wneud tŷ a gweithdy iddo’i hun a’i deulu.

Llafur Cariad

Mewn dyddiau fel y rhain, lle nad oes dim i’w gael am ddim, rhaid talu teyrnged i’r bobl hynny sydd wedi bod yn dod at ei gilydd yn rheolaidd ers degawdau – rhai ohonyn nhw ers dros 40 o flynyddoedd – i redeg Cymdeithas Tai Gwynedd. A hynny yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn wir am nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol led-led y wlad, ond priodol yw cydnabod cyfraniad y rhai a fu’n cynnal gwaith Cymdeithas Tai Gwynedd ar hyd y blynyddoedd.

Mae diolch hefyd yn ddyledus i’r cannoedd o bobl sydd wedi buddsoddi yn y Gymdeithas. Bellach y mae nifer fawr o’r rhain wedi derbyn eu harian yn ôl, ond erys 650 o ddalwyr Stoc Benthyg ar y llyfrau.

Aelodau

Aelodau'r pwyllgor adeg dadorchuddio plac i gofio cyfraniad Brian a Rona Morgan Edwards ar dy cyntaf y Gymdeithas yn Llanllyfni

Aelodau'r pwyllgor adeg dadorchuddio plac i gofio
cyfraniad Brian a Rona Morgan Edwards ar dŷ cyntaf
Cymdeithas Tai Gwynedd yn Llanllyfni.


O'r chwith: Meical Roberts, Dr. Ieuan Parri, Wil Roberts, John
Gwynedd, Bob Thomas, Dafydd Iwan, Dr. Bruce Griffiths.
Dyma restr o’r rhai a fu’n aelodau o Bwyllgor Rheoli’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, ac ymddiheurwn os gadawyd rhai allan (mae 39 o flynyddoedd yn amser hir iawn!). Nodir â seren yr aelodau presennol:

  • Y Mg. IEUAN PARRI * (Cadeirydd)
  • ALWYN JONES * (Trysorydd)
  • DAFYDD IWAN * (Ysgrifennydd)
  • MEICAL ROBERTS * (Trefnydd)
  • JEAN HEFINA OWEN *
  • ELERI ROBERTS *
  • IOAN GRIFFITH *
  • DR. BRUCE GRIFFITHS *
  • LLINOS MORRIS * (Cynrychiolydd y tenantiaid)
  • DAFYDD GIBBARD
  • JOHN GWYNEDD JONES
  • W.O.ROBERTS
  • MALDWYN LEWIS
  • Y Mg. CARL CLOWES
  • HUW TUDOR
  • OSBORN JONES
  • DAFYDD LEWIS
  • SIAN IFAN
  • T. ELWYN GRIFFITHS
  • R.MEIRION THOMAS
  • ANGHARAD E.M. JONES
  • ELIZABETH DAVIES
  • IOLO OWEN

Cofiwn hefyd yn annwyl iawn am yr aelodau hynny sydd bellach wedi’n gadael, ond a fu’n ganolog yn y gwaith o osod y Gymdeithas ar seiliau cadarn:

  • IFAN GWYN
  • DEWI JONES
  • EDWIN PRITCHARD
  • BRIAN A RONA MORGAN EDWARDS
  • ELWYN OWEN
  • R.O.ROBERTS

Meical Roberts

Yn dilyn ymddeoliad Bob Thomas yn 2005, penodwyd Meical Roberts, Llanllyfni, a fu ar un adeg yn denant i’r Gymdeithas ei hun, yn Drefnydd. Meical sydd wedi llywio’r Gymdeithas i gyfnod newydd o lewyrch, ac wedi sicrhau cymorth sylweddol i adnewyddu’r tai gan y Cyngor. Bu swyddfa’r Gymdeithas am rai blynyddoedd yn “Gerlan”, ar Stryd Fawr Pen-y-groes, cyn symud i gapel wedi ei adnewyddu’n weithdai a swyddfeydd yn Nhal-y-sarn.

Mae swyddfa’r Gymdeithas erbyn hyn yn rhan o’r adeilad ar Heol yr Wyddfa, Pen-y-groes lle mae gan Meical weithdy fframio penigamp, ac yno hefyd y mae Oriel luniau “Llun-mewn-ffrâm”. Mae Meical bellach yn rhannu ei ddydd gwaith rhwng y busnes llewyrchus hwnnw, lle mae’n fframio gwaith rhai o arlunwyr mwyaf poblogaidd Gwynedd, megis Stephen Owen ac Ifor Pritchard, a gwaith Cymdeithas Tai Gwynedd.