[neidio i'r prif gynnwys]

Croeso i wefan Cymdeithas Tai Gwynedd

40 mlynedd o ddarparu cartrefi i bobl Gwynedd

Nod cymdeithas Tai Gwynedd yw darparu tai i unigolion a theuluoedd lleolMae Cymdeithas Tai Gwynedd (sefydlwyd 1971) yn un o’r cymdeithasau hynny sydd wedi bod wrthi’n dawel yn gwneud y gwaith o greu cartrefi i bobl leol tra bod rhai yn gwneud dim ond siarad am y peth!

Yn 1971, daeth criw bychan o genedlaetholwyr ati i weld beth oedd yn bosib gwneud yn wyneb y cynnydd sydyn yn nifer y tai haf ac ail gartrefi yng Ngwynedd yn ystod y 60au . Yr ateb oedd ffurfio Cymdeithas Dai – y cyntaf i gael ei sefydlu yn y Gymru wledig, a’r gyntaf trwy wledydd Prydain gyfan i ganolbwyntio ar adnewyddu tai mewn pentrefi gwledig i’w gosod ar rent i bobl leol. Roedd hon yn gymdeithas wirfoddol, elusennol ac annibynnol, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw. Dafydd Iwan oedd y Trefnydd am y deng mlynedd cyntaf o’i hoes, ac y mae’n parhau i weithredu fel Ysgrifennydd y Pwyllgor Rheoli.

Y Pwyllgor Rheoli sy’n gyfriol am redeg y Gymdeithas, a hynny’n gwbl ddi-dâl. Etholir y Pwyllgor yn flynyddol yng Nghyfarfod Blynyddol yr Aelodau. Gan fod y Gymdeithas yn elusen, nid oes unrhyw aelod nac unrhyw aelod o’r Pwyllgor Rheoli yn gwneud unrhyw elw o’r Gymdeithas.